TEITL
|
Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2024 |
DYDDIAD |
23 Ebrill 2024 |
GAN |
Huw Irranca-Davies, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig |
|
|
Bydd Aelodau'r Senedd yn dymuno cael gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Gweinidog Gwladol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnodd y Gweinidog Gwladol dros Fioddiogelwch, Iechyd a Lles Anifeiliaid, yr Arglwydd Douglas-Miller imi gytuno i'r bwriad i wneud Offeryn Statudol (OS) o'r enw Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) 2024 ("Rheoliadau 2024") i fod yn gymwys i'r Deyrnas Unedig.
Gwnaed yr OS uchod gan y Gweinidog Gwladol drwy arfer y pwerau a roddir o dan:
· baragraff 2 o Atodiad 6 i Reoliad (UE) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau iechyd a lles anifeiliaid, cynhyrchion iechyd planhigion a diogelu planhigion, a
· paragraff 11A o Atodlen 2 i Reoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol 2011.
Diben Rheoliadau 2024, mewn cydweithrediad â Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Diwygiadau Amrywiol) 2024 yw gweithredu ail garreg filltir Model Gweithredu Targed y Ffin o 28 Ebrill 2024. Mae Rheoliadau 2024 yn diwygio dyddiad diwedd y Cyfnod Graddoli Trosiannol o 29 Ebrill 2024 i 31 Ionawr 2025 fel y gall ail gam Model Gweithredu Targed y Ffin ddechrau o 30 Ebrill 2024 ymlaen.
Nid ydym eto wedi cytuno â llywodraethau'r DU a'r Alban ar ddyddiad ar gyfer dechrau gwiriadau ffisegol ar allforion o Iwerddon, ac rydym eisoes wedi cyhoeddi na fydd ein cyfleusterau yn weithredol cyn gwanwyn 2025, ac felly bydd angen estyniad pellach i'r cyfnod graddoli trosiannol o ddiwedd Ionawr 2025.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn gwneud darpariaethau mewn perthynas â pharatoi cig sy'n berthnasol i Loegr yn unig. Rwyf wedi gwneud diwygiadau tebyg ar gyfer Cymru yn Rheoliadau Paratoadau Cig (Cymru) (Diwygio) 2024 a osodwyd gerbron y Senedd ar 12 Ebrill.
Gosodwyd Rheoliadau 2024 gerbron Senedd y DU ar 22 Ebrill 2024, a byddant yn dod i rym ar 28 Ebrill 2024.
Nid yw Rheoliadau 2024 yn ymrwymo Gweinidogion Cymru i fabwysiadu unrhyw safbwynt o eiddo Llywodraeth y DU ar fioddiogelwch yn y dyfodol.
Nid yw'r Rheoliadau yn lleihau nac yn tanseilio pwerau Gweinidogion Cymru mewn unrhyw ffordd, ac nid ydynt yn creu, yn diwygio, nac yn dileu unrhyw swyddogaethau a roddir i Weinidogion Cymru.
Hoffwn sicrhau'r Senedd mai polisi Llywodraeth Cymru fel arfer yw deddfu dros Gymru ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fodd bynnag, mewn rhai amgylchiadau, mae manteision i gydweithio â Llywodraeth y DU pan fo sail resymegol glir dros wneud hynny. Ar yr achlysur hwn, rwyf wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Rheoliadau hyn er mwyn sicrhau effeithlonrwydd a hwylustod o ran newid polisi yn y dyfodol, cydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol, cydgysylltu trawslywodraethol a chysondeb.
Diben Rheoliadau 2024 yw amddiffyn bioddiogelwch, sicrhau diogelwch bwyd a chefnogi masnach, drwy gyflwyno ail garreg filltir Model Gweithredu Targed y Ffin a gytunwyd gan holl weinyddiaethau Prydain.
Mae'r Rheoliadau a'r Memorandwm Esboniadol cysylltiedig, sy'n nodi manylion tarddiad, diben ac effaith Rheoliadau 2024, ar gael yma: